Mario Manara Dawnswyr Fe’m magwyd yn yr Eidal a dechreuais ddawnsio yn ifanc yn Academi Vic Ballet yn Verona, a pherfformio hefyd i gwmni theatr lleol. Cefais fy hyfforddi yn y Rambert School of Ballet and Contemporary Dance a chael gradd BA (Anrhydedd) Dosbarth Cyntaf yn 2020. Yn ystod f’amser yn Rambert School, cefais gyfle i weithio gyda choreograffwyr gan gynnwys Christopher Bruce (yn perfformio yn Theatr Linbury, Tŷ Opera Cenedlaethol), Mark Bruce, Arielle Smith a Thick and Tight. Cefais gyfle hefyd i berfformio fy ngwaith fy hun yn Stiwdio Lilian Baylis yn Sadler’s Wells. Wedyn ymunais â VERVE, cwmni ôl-raddedig Northern School of Contemporary Dance, yn 2021, yn teithio i berfformio gwaith gan Matthew William Robinson, Botis Seva, Caroline Finn a Barnaby Booth. Ymunais â CDCCymru yn 2022 yn perfformio gwaith gan Andrea Costanzo Martini, Caroline Finn, Marcos Morau, Matthew William Robinson a Melanie Lane, ymysg eraill. Galeri