Matthew headshot

Matthew William Robinson

CYFARWYDDWR ARTISTIG

Rwy'n artist gweithredol sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd. Rwyf wedi gweithio ar y cyd ag eraill yn rhyngwladol, mewn amrywiaeth o gyd-destunau - fel dawnsiwr, coreograffydd, hwylusydd, cyfarwyddwr ymarferion a chyfarwyddwr artistig, ac rwyf bellach yn Gyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Mae fy ngwaith coreograffi wedi cael ei gyflwyno'n eang ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, mewn lleoliadau a gwyliau yn Ewrop a thu hwnt. Drwy gyfrwng y corff, mae'r gwaith yn mynd ati i geisio cyfleu gwrthddywediadau ac emosiynau cymhleth, drwy gyfansoddiadau coreograffig hynod gorfforol. Gan gydweithio ar draws ffurfiau, rwy'n rhan o sawl partneriaeth gydweithredol sydd eisoes ar y gweill, a rhai sydd yn yr arfaeth, ym meysydd sain, ffasiwn, theatr a thechnoleg.

Rwyf wedi cyd-ddatblygu prosiectau a phrofiadau ar hyd a lled y byd mewn cyd-destunau addysgol ac fel arall, gyda myfyrwyr, artistiaid a rhai sydd heb brofiad o gwbl o ddawns neu ychydig iawn o brofiad ohono. Fel un sy'n hynod frwdfrydig ynghylch potensial dawns i'n galluogi i weld ein hunain, ein gilydd a'n byd mewn ffordd wahanol, rwy'n ddadleuwr cryf o blaid symud fel rhan hanfodol o fywyd pawb.

Am nifer o flynyddoedd, bûm yn rhan annatod o Scottish Dance Theatre, yn perfformio gwaith gan ystod o goreograffwyr rhyngwladol, gan gynnwys Sharon Eyal, Damien Jalet, Hofesh Shechter, a Victor Quijada. Yn 2013, cefais fy ngwahodd i fod yn Gyfarwyddwr Ymarferion, yn cefnogi'r dawnswyr a'r artistiaid gwadd yn eu proses greadigol, a'r cwmni ar sawl taith ryngwladol.

Roeddwn yn Gyfarwyddwr Artistig VERVE rhwng 2016 a 2021. Gan gydweithio â lleisiau coreograffig byd-enwog a newydd, llwyddodd y cwmni i greu rhaglenni dawns unigryw a hynod ddiddorol ar gyfer rhaglenni teithio rhyngwladol. Datblygodd y cwmni ei enw da am gomisiynu beiddgar ac ansawdd yr hyfforddiant artistig mae'n ei gynnig i egin artistiaid dawns, gan gyrraedd miloedd o bobl bob blwyddyn - ar y llwyfan, ar-lein a drwy waith allgymorth.

Yn 2021, fe'm penodwyd yn Gyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, ac rwyf wedi bod yn datblygu posibiliadau cydblethol rhaglenni artistig a rhaglenni ymgysylltu y cwmni. Yn sail i waith artistig y cwmni y mae cydweithio mentrus, ac mae'r gwaith hwnnw'n gwneud yn fawr o eirfaoedd corfforol arbennig artistiaid o bob cwr o'r byd, gan greu rhaglenni unigryw i ysbrydoli a chyffroi cynulleidfaoedd a chyfranogwyr ar hyd a lled Cymru, y Deyrnas Unedig a'r byd. Wrth ddatblygu gwaith ar gyfer y theatr, mannau cyhoeddus, gwyliau a chyd-destunau ymgolli, mae'r cwmni'n camu'n fras i'w ddyfodol, gan archwilio a datblygu rôl cwmnïau repertoire heddiw.

Rwy'n raddedig o London Contemporary Dance School.