Niamh headshot

Niamh Keeling

Dawnswyr

Yr haf hwn graddiais o Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain gyda BA Anrhydedd, yn fy mlwyddyn olaf cefais y fraint o weithio gyda'r coreograffwyr Leah Marojevic, Simone Mousset a Richard Alston mewn creadigaethau newydd a berfformiwyd ar wahanol gyfryngau o'r llwyfan i'r digidol. Cyn hyn, rhwng 2014-2017 roeddwn yn aelod o'r Cwmni Dawns Ieuenctid Cenedlaethol gan weithio gyda Sidi Larbi Cherkaoui, Michael Keegan-Dolan a Damien Jalet ar daith ledled Lloegr gan sefydlu pob darn o waith ar brif lwyfan Sadlers Wells, profiad anhygoel i mi fel dawnsiwr ifanc. Rhwng 2013-2017 cymerais ran yn rhaglen C.A.T Dance4, sy'n haeddu clod am fy nghyflwyno i fyd ehangach dawns gyfoes. 

Ar ôl blwyddyn fel dysgwr ar leoliad gwaith yn CDCCymru, rwy’n falch o fod yn perfformio gyda’r cwmni fel rhan o raglenni’r Hydref a’r Gwanwyn.