two dancers twist together under a strange blue light, there is a red neon line running horizontally across the page behind them
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Frontiers | Gorwelion

Hydref 2024

Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad
Coreograffi gan Matthew William Robinson a Melanie Lane

Dewch i ddianc i fyd yn llawn cyffro trwy wylio dwy ddawns gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru – profiad dawns cadarnhaol a gwirioneddol gelfydd.

Teithiol Hydref 2024

Cefnogir gan:
Colwinston logo with mouse

two dancers in neon green light on a black background shot from above

AUGUST gan Matthew William Robinson

Wrth i’r haul fachlud, newidiodd popeth.

Machlud yr haul sydd wedi ysbrydoli AUGUST – gofod rhwng rheolaeth a rhyfyg. Gorffen a ffarwelio yw hanfod AUGUST. Y newidiadau sy’n ein dwyn ynghyd ac yn ein gwahanu.

Law yn llaw â lliwiau gwan y cyfnos a fflachiau neon y nos, mae AUGUST yn teithio trwy dirwedd synhwyraidd sy’n symud rhwng y peryglus a’r hardd.

Cydweithrediad artistig rhwng y coreograffydd Matthew William Robinson, y cyfansoddwr Torben Sylvest, y dylunydd George Hampton Wale, y dylunydd goleuadau Emma Jones ac artistiaid Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

 

a pixelated background and title text reading 'skinners'

Skinners gan Melanie Lane

Rydym yn byw mewn oes ddigidol. Rydym yn defnyddio hidlyddion i bylu realiti, a rhithffurfiau i guddio pwy ydym ni. Rydym yn siarad gyda Deallusrwydd Artiffisial, ac mae’r Deallusrwydd hwnnw yn siarad yn ôl gyda ni. Rydym yn gwegian ar ymyl dyfodol gwefreiddiol a dychrynllyd lle mae’r corff dynol yn camweithio rhwng cnawd a rhith, ffaith a ffuglen.

Y tu hwnt i’r ffantasïau a wireddir gan dechnoleg, erys ein dynoliaeth. Sut y gallwn ddychwelyd at y byd go iawn? Sut y gallwn ddychwelyd at ein croen, sy’n rhan annatod ohonom?

Mae Skinners gan Melanie Lane (coreograffydd o Awstralia o darddiad Ewropeaidd a Jafanaidd) yn cynnwys cerddoriaeth newydd gan y cyfansoddwr Yamila Rios, gwisgoedd gan Don Aretino a goleuadau gan y dylunydd Cymreig Ceri James.

Tîm Creadigol

Choreographer: Matthew William Robinson 
Cyfansoddwr: Torben Slyvest
Dylunio GwisgoeddGeorge Hampton-Wale
Dyluniad Goleuo: Emma Jones

Matthew William Robinson
Mae Matthew Robinson (ef) yn artist gweithredol sydd wedi'i leoli yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.

Bydd yn gweithio ar y cyd ag eraill yn rhyngwladol, mewn amrywiaeth o gyd-destunau - fel dawnsiwr, coreograffydd, hwylusydd, cyfarwyddwr ymarferion a chyfarwyddwr artistig, ac ef yw Cyfarwyddwr Artistig presennol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Mae ei waith coreograffi wedi cael ei gyflwyno'n eang ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, mewn lleoliadau a gwyliau yn Ewrop a thu hwnt. Drwy gyfrwng y corff, mae'r gwaith yn mynd ati i geisio cyfleu gwrthddywediadau ac emosiynau cymhleth, drwy gyfansoddiadau coreograffig hynod gorfforol. Gan gydweithio ar draws ffurfiau, mae Matthew'n rhan o sawl partneriaeth gydweithredol sydd eisoes ar y gweill, a rhai sydd yn yr arfaeth, ym meysydd sain, ffasiwn, theatr a thechnoleg.

Coreograffwr

Matthew William Robinson

Matthew is a white man with short hair, his photo is bathed in strong, red light.
Tîm Creadigol

Coreograffwr: Melanie Lane
Cyfansoddwr: Yamila Rios
Dylunio Gwisgoedd: Don Aretino
Dyluniad Goleuo: Ceri James

Melanie Lane
Coreograffydd a pherfformiwr o Awstralia a chanddi dreftadaeth ddiwylliannol Jafanaidd/Ewropeaidd yw Melanie Lane. Mae’n gweithio ar draws y celfyddydau gweledol, theatr, cerddoriaeth a ffilm. Mae ei gwaith yn ymdrin â hanes ffisegol a diwylliannol er mwyn archwilio mytholegau cymdeithasol cyfredol, gan eu hallosod ar ffurf dyfodol swreal sy’n ddryslyd, yn doredig ac wedi’i ad-drefnu. Cyflwynwyd y gweithiau annibynnol hyn ledled y byd mewn gwyliau a theatrau yn Ewrop, Indonesia, Unol Daleithiau America ac Awstralia. Gan ddefnyddio’i threftadaeth Ewropeaidd ac Indonesaidd, mae Lane yn symud rhwng tirluniau a dylanwadau diwylliannol. Mae Melanie yn ymgysylltu’n rheolaidd ar draws prosiectau yn Indonesia fel coreograffydd, cydweithredwr, perfformiwr a mentor.


Ffoto: Barbara Dietl

Coreograffwr

Melanie Lane

headshot of Melanie lane who has long black hair and red lipstick
Galeri
two dancers under a neon blue light
two dancers under a neon blue and red light
two dancers under a neon blue light
Yn mynd ar daith i
Aberhonddu
Theatr Brycheiniog
Dydd Mercher 16 Hydref 2024, 19:30
Low Vision
Drenewydd
Y Hafren
Dydd Sadwrn 26 Hydref 2024, 19:30
Low Vision
Bangor
Pontio
Dydd Mercher 6 Tachwedd 2024, 19:30
Low Vision
Huddersfield
Lawrence Batley Theatre
Dydd Mawrth 12 Tachwedd 2024, 19:30
Low Vision
Aberystwyth
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
Dydd Mercher 20 Tachwedd 2024, 19:30
Low Vision

Rhaglen y Daith

Skinners gan Melanie Lane: Rydym yn byw mewn oes ddigidol. Y tu hwnt i’r ffantasïau a wireddir gan dechnoleg, erys ein dynoliaeth.

AUGUST gan Matthew William Robinson. "Wrth i’r haul fachlud, newidiodd popeth"