Mae CDCCymru yn croesawu Ymddiriedolwyr newydd i helpu arwain y bennod feiddgar nesaf Mae’n bleser gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) gyhoeddi penodi pum Ymddiriedolwr newydd i’w Bwrdd. Mae Ceri Ulyatt, Gentiana Roarson, Hefin Archer-Williams, Eluned Owen a Jamie Jenkins yn ymuno â’r Bwrdd, pob un ohonynt yn dod ag arbenigedd proffesiynol unigryw, profiad byw, safbwyntiau ac angerdd cyffredin dros ddawns a chreadigrwydd yng Nghymru. Mae eu gwybodaeth gyfunol yn cwmpasu cyllid byd-eang, data ac ymchwil, y gyfraith, addysg ac ymgysylltu cymunedol, datblygu artistiaid, perfformio a choreograffi, yn ogystal ag arweinyddiaeth ar draws y sectorau celfyddydol a chyhoeddus. Gyda’i gilydd, mae Bwrdd CDCCymru yn cynrychioli rhywbeth arbennig: cydgyfeiriant o leisiau, safbwyntiau a phrofiadau wedi eu huno gan gred ym mhŵer dawns i gysylltu, herio ac ysbrydoli. Maent yn ymgorffori amrywiaeth ym mhob ystyr, mewn proffesiwn, cefndir, oed, ethnigrwydd, rhywedd, a safbwyntiau. Gydag ymrwymiad cyffredin i bŵer trawsnewidiol y celfyddydau, byddant yn helpu i lywio CDCCymru i’w bennod feiddgar nesaf, gan lywio dyfodol sy’n effeithiol, cynaliadwy, cynhwysol ac wedi’i wreiddio’n falch yng Nghymru, wrth edrych yn hyderus allan i’r byd. Ein Hymddiriedolwyr Newydd Ceri Ulyatt Arweinydd cyllid trawsnewidiol sydd wedi ennill gwobrau, gyda thros 25 mlynedd o brofiad rhyngwladol, mae Ceri yn dod ag arbenigedd llywodraethu, ariannol a strategol arbennig i’r Bwrdd. Fel Pennaeth Byd-eang Trysorlys Corfforaethol a Threth, mae’n arwain tîm amlwladol gydag empathi a gweledigaeth, gan hybu perfformiad drwy gydweithrediad ac atebolrwydd. Diffiniwyd ei gyrfa gan ymrwymiad i fentora ac arweinyddiaeth gynhwysol, a gydnabuwyd gan ei gwobr Mentor Treth Trethi Tolley y Flwyddyn 2025. Yn gyn-lywodraethwr ysgol a chefnogwr brwd o’r celfyddydau, mae Ceri hefyd yn fam ddawns falch, wedi ei hysbrydoli gan daith greadigol ei merch ei hun. “Mae fy ngyrfa amrywiol yn adlewyrchu ymrwymiad dwfn i ragoriaeth, yn y sector ariannol a nawr y celfyddydau. Rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio fy sgiliau a’m mhrofiadau i gefnogi CDCCymru i feithrin cymuned fywiog sy’n grymuso mynegiant artistig ac yn ysbrydoli talentau’r dyfodol.” Gentiana RoarsonYn arweinydd ymchwil a data gydag arbenigedd ar draws seicoleg, seiberneteg ac awtomeiddio, mae Gentiana yn Bennaeth Arolygon Busnes R&D yn y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol. Mae ei gwaith yn cysylltu arloesedd, moesau a thechnoleg i wella gwneud penderfyniadau er lles y cyhoedd. Wedi ymddiddori yn y celfyddydau gydol ei hoes, mae wedi dilyn gwaith CDCCymru gydag edmygedd am ei allu i symud a chynhyrfu cynulleidfaoedd. Mae ei meddwl dadansoddol a’i chalon greadigol yn ei gwneud yn eiriolwr cryf i sut y gall data a mewnwelediad gryfhau effaith ddiwylliannol. “Dros y blynyddoedd, rwyf wedi gweld trosaf fy hun sut mae CDCCymru yn arbenigo mewn creu straeon gweledol trwy symudiad, trochi cynulleidfaoedd o bob oed mewn profiadau hynod o ddifyr ac annisgwyl. Rwyf wrth fy modd yn bod yn rhan o hynny.” Hefin Archer-WilliamsFel Pennaeth Swyddfa Caerdydd o HCR Law, mae Hefin yn weithiwr cyfreithiol proffesiynol uchel ei barch, ac yn adnabyddus am ei ddull pobl yn gyntaf a’i ymrwymiad i ragoriaeth. Ers sefydlu’r swyddfa yng Nghaerdydd yn 2020, mae wedi goruchwylio ei thwf o dîm o bump i dros saith deg, gan feithrin diwylliant o uchelgais, cydweithredu ac uniondeb. Mae Hefin hefyd wedi dal swyddi gyda chyrff chwaraeon cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys Criced Cymru a Lloegr, Pêl-fasged, Badminton, Saethu, Tenis Bwrdd a Gemau’r Gymanwlad Cymru, gan gyfuno’i arbenigedd cyfreithiol ag angerdd am waith tîm a chymuned. Yn Gymro balch sy’n gwerthfawrogi diwylliant, cerddoriaeth a’r celfyddydau’n fawr, ymuna Hefin â CDCCymru i rannu ei brofiad llywodraethu, ei farn gytbwys a’i gred mewn pŵer creadigol i gysylltu ac ysbrydoli. “Mae gan Gymru galon ddiwylliannol anhygoel, ac rwy’n falch o chwarae fy rhan yn cefnogi un o’i sefydliadau creadigol blaenllaw. Mae dawns, fel chwaraeon, yn dod â phobl ynghyd drwy angerdd, disgyblaeth a phrofiad cyffredin. Rwy’n edrych ymlaen at helpu CDCCymru i barhau i dyfu gydag uchelgais, hyder ac uniondeb.” Eluned OwenYn ddawnswraig, coreograffydd ac athrawes o Aberystwyth, mae Eluned, yn cynrychioli’r genhedlaeth nesaf o artistiaid o Gymru sy’n llywio dyfodol dawns. Wedi hyfforddi ym Mhrifysgol Winchester ac fel Aelod Cyswllt Ifanc CDCCymru, mae bellach yn canolbwyntio ar addysgu cynhwysol a chreu lleoedd hygyrch er mwyn i bob dawnsiwr ffynnu. Mae ei choreograffi, gan gynnwys Minlliw gyda Chwmni Theatr Arad Goch, eisoes wedi ymddangos mewn gwyliau fel Agor Drysau. Fel siaradwraig Gymraeg frodorol, daw Eluned â phrofiad byw hollbwysig i’r Bwrdd, gan helpu i ddatblygu cysylltiad CDCCymru â’r diwylliant a’r iaith Gymraeg. “Fel ymddiriedolwr, rwyf yn edrych ymlaen at gadw’r cysylltiad rhwng y byd dawns cyfoes a’r diwylliant a’r iaith Gymraeg yn fyw. Rwyf yn cael fy nhynnu i dderbyn y swydd hon er lles dawnswyr o Gymru a sector ehangach y celfyddydau yng Nghymru.” Jamie JenkinsMae Jamie yn ffigwr dylanwadol yn y maes dawns yng Nghymru, gan gyfuno profiad fel perfformiwr, addysgwr, cynhyrchydd ac eiriolwr. Cychwynnodd ei daith broffesiynol yng Ngholeg Stella Mann a’r London Contemporary Dance School, cyn mynd ymlaen i Brifysgol Aberystwyth i wneud cwrs TAR, gan gyfuno rhagoriaeth artistig gydag ymrwymiad dwfn i addysg. Wedi gyrfa berfformio ryngwladol yn cwmpasu dawns gyfoes, theatr gerdd a theledu, symudodd Jamie i swyddi arwain, sydd wedi llywio dysgu a chyfranogiad dawns ledled Cymru. Fel Pennaeth Dawns a Chynhyrchydd i Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, mae’n creu a chyflwyno rhaglenni sy’n meithrin y genhedlaeth nesaf o artistiaid dawns o Gymru, gan eu cysylltu â choreograffwyr blaenllaw a chreu llwybrau i yrfaoedd proffesiynol. Mae dylanwad Jamie yn ymestyn ar draws y sector ehangach. Mae’n gweithredu fel Hwyluswr Dawns i Gyngor Celfyddydau Cymru, yn Aelod Bwrdd o Rwydwaith Addysg Celfyddydau Cenedlaethol Cymru, ac yn Gynghorydd Dawns i sefydliadau yn cynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol. Drwy’r rolau hyn, mae’n hyrwyddo mynediad, cyfle a rhagoriaeth greadigol, gan sicrhau bod dawns yn parhau i ffynnu mewn addysg, cymunedau ac ymarfer proffesiynol. “Mae dawns wedi rhoi popeth i mi, pwrpas, cymuned a’r cyfle i weld pobl ifanc yn tyfu mewn hyder a chreadigrwydd. Rwy’n angerddol dros wneud yn siŵr fod pawb yng Nghymru yn gallu cael mynediad at brofiadau dawns o safon uchel, ble bynnag y maent yn byw a beth bynnag fo’u cefndir. Mae ymuno â CDCCymru yn gyfle cyffrous i helpu i gryfhau’r cysylltiadau hynny ac i ddathlu pŵer symud i newid bywydau.” Ein Bwrdd Mae penodi Ceri, Eluned, Gentiana, Jamie a Hefin yn cryfhau’r Bwrdd ymhellach, gan ddod ag ystod anhygoel o brofiad ynghyd. Rhai o’r Ymddiriedolwyr cyfredol yw Cathryne Allen, Joanna Davies, Emma Flatley, Krystal Lowe, Tupac Martir, Stacey Rainbow (Oliver) a Chadeirydd y Bwrdd, Alison Thorne. Dywedodd Alison: “Rwyf wrth fy modd yn croesawu ein Hymddiriedolwyr newydd, a bydd eu profiad a’u hegni o gymorth i lywio pennod nesaf CDCCymru. Maent yn dod â, nid yn unig ragoriaeth broffesiynol ond, cysylltiad dwfn â Chymru, ac i ddawns fel grym pwerus ar gyfer newid. Gyda’n tîm a’n Bwrdd presennol, byddant yn ein helpu i barhau i greu cwmni sy’n symud pobl ym mhob ystyr.”Ychwanegodd: “Rydym hefyd yn estyn ein gwerthfawrogiad i William James, sy’n camu lawr ym mis Tachwedd ar ôl cwblhau ei dymor o chwe blynedd, a Giovanni Basiletti, a gwblhaodd ei gyfnod ym mis Awst. Mae’r ddau ohonynt wedi cyfrannu’n sylweddol i dwf ac uchelgais y cwmni, ac rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu gwasanaeth a’u hangerdd.” Cyfnod newydd i CDCCymru Mae 2025 yn nodi cyfnod newydd i’r cwmni, nid yn unig wrth i ni groesawu penodiadau newydd i’r Bwrdd ond hefyd wrth i Bakani Pick-Up gymryd y swydd o Gyfarwyddwr Artistig (a Chyd Brif Weithredwr). Mae’n flwyddyn sy’n nodi syniadau newydd, uchelgais feiddgar a phwrpas newydd, wrth i ni barhau i adeiladu ar fwy na phedwar degawd o greadigrwydd ac effaith. Fel un o sefydliadau celfyddydol cenedlaethol Cymru, rydym yn falch o gynrychioli’r genedl ar lwyfannau ledled Cymru, y DU a’r byd, yn hyrwyddo’r dalent, yr iaith a’r dychymyg sy’n gwneud Cymru mor unigryw. Mae ein stori wedi’i gwreiddio mewn gwaith arloesol o gomisiynau beiddgar gydag artistiaid o Gymru ac wedi’u lleoli yng Nghymru, i gydweithrediadau rhyngwladol sy’n cysylltu cynulleidfaoedd lleol gyda phobl greadigol ac ymarferwyr yn fyd-eang. Ond mae ein gwaith yn mynd ymhell y tu hwnt i'r llwyfan. Rydym yn creu cyfleoedd i artistiaid y dyfodol, artistiaid sy’n datblygu ac artistiaid proffesiynol i dyfu o fod mewn dosbarth gyda dawnswyr ein cwmni a chael mynediad at le mewn stiwdio am ddim, i gydweithredu ar brosiectau ymchwil a derbyn cymorth creadigol ymroddedig. Rydym yn hyrwyddo’r genhedlaeth nesaf drwy ein rhaglen Aelodau Cyswllt Ifanc a’n gwaith gyda’r cwricwlwm cenedlaethol, yn creu mwy o gyfleoedd mewn dawns a’r celfyddydau drwy Tu Hwnt i’r Gofyn gyda chymunedau yn Penrhys, ac yn credu’n gryf ym mhŵer dawns ar gyfer iechyd a llesiant drwy brosiectau arloesol fel Dawns ar gyfer Parkinson’s. Y tu ôl i’r llen, rydym wedi bod yn mireinio ein ffocws ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Rydym yn archwilio sut i gryfhau ein rôl a chael effaith fwy sylweddol drwy adeiladu rhwydweithiau cryfach, creu mwy o gyfleoedd i artistiaid a chynulleidfaoedd, a sicrhau bod dawns yng Nghymru yn parhau i ffynnu yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r foment hon yn nodi myfyrdod ac adnewyddiad: cyfle i ddathlu’r hyn yr ydym wedi ei gyflawni ac i ddiffinio’r hyn sy’n dod nesaf i gwmni sydd erioed wedi stopio symud yn ei flaen. Mae’r bennod newydd hon yn ein hanes yn gryf, yn berthnasol ac yn bell-gyrhaeddol. Gyda Bwrdd deinamig, arweinyddiaeth llawn gweledigaeth a thîm brwdfrydig, mae ein dyfodol yn ddisglair, cynhwysol a llawn posibiliadau. Dysgwch ragor am ein Bwrdd llawn o Ymddiriedolwyr Yma