Discover Dance image
CDCCymru yn Cyflwyno

Rygbi Pecyn Dysgu

ages 4+

Yn y pecyn hwn, byddwch yn dod o hyd i amrywiaeth o weithgareddau dawns diddorol i'r holl deulu, i'w mwynhau gyda'ch gilydd, dewch i ddawnsio!

Dogfennau i’w lawrlwytho

Fel cwmni dawns, rydym yn deall ei fod yn anodd cadw'n actif wrth fod yn gaeth i'ch cartref, ond nid yw hynny'n golygu ei fod yn amhosib! Yn y pecyn hwn, byddwch yn dod o hyd i amrywiaeth o weithgareddau dawns diddorol i'r holl deulu, i'w mwynhau gyda'ch gilydd, DEWCH I DDAWNSIO! 

Cyn i chi gychwyn unrhyw dasg ddawns, sicrhewch eich bod wedi ymestyn a chynhesu eich corff. 
Sicrhewch fod yr ystafell yn wastad, bod digon o le i symud, a cheisiwch symud unrhyw beryglon, megis matiau neu ddodrefn, i un ochr 

Sgroliwch i lawr – rydym wedi gadael cyfarwyddiadau a thiwtorialau fideo ar y tair tasg gyntaf – mae ein pecyn yn cynnwys saith tasg ddiddorol yn cynnwys dawns, tudalennau lliwio, ysgrifennu syniadau a mwy.

2 dancers walking

LLIWIAU AR Y LLAWR 

Oedran a Argymhellir 4+ 
Hyd 10 munud+ 
Maint grŵp 1+ 

Gan ddefnyddio unrhyw wrthrych lliw (er enghraifft sbotiau papur, clustogau neu degannau), gorchuddiwch y llawr fel bod gennych amrywiaeth o liwiau a gwrthrychau wedi'u gwasgaru'n hafal. Gallwch droi'r dasg yn her helfa drysor lliwiau cartref os y dymunwch! Unwaith rydych wedi casglu eich gwrthrychau, gwaeddwch ddilyniant o liwiau, ac mae'n rhaid i'ch dawnsiwr daro ar y lliwiau yn y drefn gywir.  

 

Mae'r gweithgaredd hwn yn helpu i: 

  • Gynhesu'r corff 

  • Dysgu a chofio patrymau  

  • Dod o hyd i ffyrdd creadigol i symud 

  • Archwilio'r man a gwahanol lwybrau 

CREU'R DARLUN 

Oedran a argymhellir 5+ 
Hyd 10 munud+ 
Maint grŵp 1+ 

Gan ddefnyddio eich corff, ceisiwch ail-greu darlun o fewn amser penodol, a daliwch y siâp hwnnw. Gallwch ddefnyddio llun neu wrthrych yn y cartref, neu rhowch enghraifft o siâp neu ddarlun.  

Neu, defnyddiwch eiriau sy'n creu darlun corfforol cyffrous yn eich barn chi. Gallwch greu rai cardiau â'r geiriau arnynt, ac ychwanegu llun ar y diwedd i gefnogi dysgu llythrennedd. Gofynnwch i'r dawnswyr ddewis darlun o'r pecyn. Gallwch hyd yn oed roi'r geiriau mewn bag a'u dewis nhw ar ddull 'Lucky Dip'. Yna, bydd y dawnswyr yn dyfalu'r siâp sy'n cael ei ail-greu! 

 

Mae'r gweithgaredd hwn yn helpu i: 

  • Adeiladu sgiliau gweithio mewn tîm 

  • Dod o hyd i ffyrdd creadigol i ddefnyddio'r corff 

  • Datblygu ffocws 

  • Ysgrifennu 

  • Arlunio 

  • Sgiliau motor 

tim looking at the floor

DAWNS RYGBI 

Oedran a Argymhellir 4+ 
Hyd 10 munud+ 
Maint grŵp 1+ 

Meddyliwch am y siapiau rydych yn eu gweld ar y cae mewn gêm rygbi. Meddyliwch am y siapiau mae'r chwaraewyr yn eu creu - wrth sgorio cais, taclo, neu'r siapiau eraill rydych yn eu gweld o gwmpas y stadiwm, megis y bêl, y pyst neu'r stadiwm ei hun.  

Dewiswch bedwar sy'n ddiddorol a chyffrous i chi. Ychwanegwch siapiau sy'n uchel a siapiau rydych yn eu gweld ar y llawr i roi amrywiaeth i'ch dawns! 

 

Mae'r gweithgaredd hwn yn helpu i: 

·         Datblygu cof a dilyniant 

·         Dod o hyd i ffyrdd creadigol i ddefnyddio'r corff 

·         Datblygu ffocws 

·         Ysgrifennu 

·         Darlunio 

·         Sgiliau motor 

dancers in rugby kit smiling and kicking high

Mwy o Weithgareddau

Os ydych yn chwilio am fwy o weithgareddau, gallwch eu lawrlwytho o’n taflenni gwahanol isod.

 

ARWAIN, CYFFWRDD A DILYN 

Gweithiwch mewn parau, gydag un person yn arwain a'r llall yn dilyn. Mae'r arweinydd yn cyffwrdd y dilynwr i'w arwain a gwneud iddo symud. Mae'n rhaid i'r dilynwr symud pob rhan o'r corff tuag at yr arweinydd i allu cychwyn symud. 

 

PEIRIANNAU 

Camwch i mewn i'r gwagle a pherfformiwch arwydd ailadroddus, boed ar eich pen eich hun, gyda phartner neu eich teulu.

 

CREU DARLUN 

Defnyddiwch rai o'r darluniau isod i ail-greu'r hyn rydych yn ei weld, boed ar eich pen eich hun, gyda phartner neu eich teulu.

 

DYLUNIWCH EICH CIT RYGBI EICH HUN

Dyluniwyd y citiau yn ‘Rygbi’ gydag atgofion a phersonoliaethau ein dawnswyr unigol. Gan ddefnyddio'r templed a ddarperir isod, crëwch eich cit eich hun.

2 DANCERS 1 TOUCHING THEIR SHOULDER

HER FFILM DDAWNS

Her ddawns i roi cynnig arni gartref! Syniadau a sgiliau yn cynnwys: Gwneud ffilm, golygu, creu cerddoriaeth, dawns, ysgrifennu sgript, creadigrwydd a mwy! Rhowch eich cyffyrddiad chi arno.

Dogfennau i’w lawrlwytho