a child beatboxing

Rheolwr y Prosiect

Above & Beyond, Penrhys

Deadline Date
15/08/2024 - 12:00
Deadline Date
15/08/2024 - 12:00

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru eisiau contractio Rheolwr Prosiect profiadol, rhagweithiol ac agos-atoch i ddatblygu strategaeth i sicrhau dyfodol 'Above & Beyond', prosiect hirdymor a ddarperir ym Mhenrhys (Rhondda Cynon Taf).

Cenhadaeth y prosiect yw trawsnewid y gymuned trwy weithgaredd diwylliannol er mwyn sicrhau newid cymdeithasol cadarnhaol ac i bobl Penrhys gael mwy o lais ac edrych tuag at ddyfodol cadarnhaol.

Mae Above & Beyond yn brosiect cymunedol esblygol sy'n dod â chymuned Penrhys a phartneriaid, cydweithwyr a phobl greadigol at ei gilydd. Mae'r partneriaid yn cynnwys Ysgol Gynradd Penrhys, Cymdeithas Tai Trivallis, Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Rhondda Cynon Taf, Tŷ Cerdd, Valleys Kids ac Eglwys Unedig Llanfair.

Mae'r prosiect, sydd bellach yn ei bumed flwyddyn, wedi cael effaith fawr yn y gymuned ac mae pawb sy'n gysylltiedig yn parhau i fod â dyheadau, balchder a gobaith i Penrhys fod yn ganolbwynt ar gyfer mynegiant artistig unigryw, cydlyniant cymunedol a newid cymdeithasol cadarnhaol.

Mae'r rhaglen wedi datblygu ac esblygu mewn ymateb uniongyrchol i ddysgu, profiadau ac ymgysylltu â'r gymuned. Mae'r rhaglen artistig dros y pum mlynedd wedi canolbwyntio ar Ddawns Parkour yn bennaf, ochr yn ochr â gweithgareddau drama a bît-bocsio. Mae'r cyfuniad unigryw hwn wedi bod yn arbennig o lwyddiannus wrth ymgysylltu â phobl ifanc. Mae gweithdai wythnosol wedi gweld cynnydd mewn chwilfrydedd, ffocws ac ymrwymiad gan drigolion ifanc Penrhys. Mae'r rhaglen weithgaredd hefyd yn cynnwys sesiynau symud ar gyfer Mamau, babanod a phlant bach, gweithgareddau clwb ar ôl ysgol, a sesiynau symud iach i oedolion.

Mae'r artistiaid arweiniol Sandra Harnisch-Lacey a Kyle Stead wedi bod yn gweithio yng nghymuned Penrhys ers sawl blwyddyn ac wedi datblygu methodoleg waith benodol yn seiliedig ar gyd-gynhyrchu ac ymarfer myfyriol ac atblygol. Bydd yr ymgeisydd yn cydweithio'n agos â'r ddau artist arweiniol ar bob agwedd ar y gwaith.

Rydym yn chwilio am Reolwr Prosiect i ddiffinio strategaeth tair blynedd (2025/2026 - 2027/2028) a fydd yn cael ei llywio gan y gymuned, Artistiaid Arweiniol a phartneriaid prosiect i sicrhau dyfodol hirdymor y prosiect.  Mae cydweithio yn elfen allweddol o ddatblygu'r strategaeth tair blynedd.

Bydd y Rheolwr Prosiect yn arwain ar ymgynghori, gwerthuso, adrodd ar effaith a gosod cyllideb i sefydlu strategaeth ar gyfer cyflawni hirdymor a fydd yn cael ei llywio gan angen cymunedol a'r canlyniadau a ddeisyfir. Bydd hyn yn cynnwys datblygu'r achos dros gefnogi, ymchwilio i, a diffinio cynllun codi arian i sicrhau buddsoddiad ariannol i ddiogelu dyfodol y prosiect.

Mae'r rôl hon yn addas i reolwr prosiect profiadol sydd â phrofiad strategol a phrofiad o godi arian ynghyd â sgiliau cyfathrebu rhagorol. Dylech fod yn angerddol am ymgysylltu â chyfranogwyr o bob oed a'r newid cymdeithasol cadarnhaol y gellir ei gyflawni trwy weithgaredd artistig.

Cyfanswm y ffi am y gweithgaredd hwn yw £8,640 yn seiliedig ar 36 diwrnod o waith ar gyfradd o £240 y dydd.

Gwaith i'w wneud rhwng y dyddiad cychwyn, sef 1 Hydref 2024 a 1 Gorffennaf 2025.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan bobl sy'n byw neu'n gweithio yn ardal RhCT.

Rydym yn cydnabod gwerthoedd cadarnhaol amrywiaeth.  Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu, ac oherwydd ein bod am adlewyrchu'r gymdeithas yr ydym yn gweithio ynddi ac yn ei charu, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n fyddar ac yn anabl a'r Mwyafrif Byd-eang.

Contract y Rheolwr Prosiect

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru eisiau contractio Rheolwr Prosiect profiadol, rhagweithiol ac agos atoch i ddatblygu strategaeth i sicrhau dyfodol 'Above & Beyond', prosiect hirdymor a ddarperir ym Mhenrhys (Rhondda Cynon Taf), gan weithio'n agos gyda'r gymuned, artistiaid arweiniol a phartneriaid prosiect. Gellir cyflawni’r rôl o bell ond o bryd i’w gilydd, bydd angen mynd ar ymweliadau i ymgynghori â thrigolion Penrhys a phartneriaid yn RhCT, a mynychu cyfarfodydd yn y Tŷ Dawns, Bae Caerdydd. 

Yn adrodd i: Cynhyrchydd Ymgysylltu Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Cyfrifoldebau allweddol

  • Ymgynghori â thrigolion Penrhys i sefydlu angen a’r canlyniadau a ddeisyfir i sicrhau bod y gymuned yn cymryd rhan lawn yn y gwaith o gynllunio a datblygu dyfodol y prosiect
  • Gweithio gyda'r prif artistiaid, cynhyrchwyr, y gymuned a phartneriaid i ddatblygu strategaeth 3 blynedd (gan gynnwys y gyllideb)
  • Arwain ar werthuso prosiectau ac adrodd ar effaith
  • Bod yn gyfrifol am gasglu ystadegau ar gyfer y prosiect
  • Arwain ar reoli cyllideb y prosiect
  • Arwain ar ddatblygu achos am gymorth a chynhyrchu'r wybodaeth a'r adnoddau sydd eu hangen i sicrhau cymorth ariannol
  • Ymchwilio i, a diffinio cynllun gweithredu i sicrhau buddsoddiad ariannol i ddiogelu dyfodol y prosiect
  • Sicrhau bod y tîm cyflawni yn cael cefnogaeth dda a bod eu hiechyd a'u lles yn cael eu hystyried
  • Creu a chynnal fforwm cefnogol i dîm y prosiect, partneriaid a chyfranogwyr lle gallant gynnig a herio syniadau
  • Casglu adborth gan gyfranogwyr a sefydliadau partner a chyfrannu at adroddiadau parhaus a'r adroddiad gwerthuso terfynol.
  • Mynychu cyfarfodydd yn bersonol ac ar-lein drwy gydol y prosiect.

 

Telerau ac Amodau

Ffi: Cyfanswm y ffi ar gyfer y contract hwn yw £8,640 (yn seiliedig ar 36 diwrnod ar gyfradd o £240 y dydd).

Hyd ac amser y contract: 1 Hydref 2024 - 1 Gorffennaf 2025

Lleoliadau ar gyfer cyflawni contractau: Byddwch yn gweithio gartref yn bennaf, ond bydd gofyn i chi fynychu cyfarfodydd yn Penrhys, RhCT ac yn swyddfa Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn Y Tŷ Dawns ym Mae Caerdydd.

Bydd unrhyw gynnig yn amodol ar dderbyn:

  • Geirdaon ar gyfer contractau blaenorol sy'n foddhaol i'r panel contractio
  • Tystiolaeth o hawl i weithio/ymgymryd â chontractau yn y Deyrnas Unedig fel y'u diffinnir gan y Swyddfa Gartref
shiloutte of young dancers
two young dancers around a table performing

Manyleb person

Byddem yn disgwyl i gontractwyr allu dangos cymhwysedd yn y rhan fwyaf o'r meysydd hyn:

  • Profiad o reoli, dyfeisio a gweithio i gyllidebau
  • Profiad o werthuso prosiectau celfyddydol
  • Profiad o reoli gweithgarwch diwylliannol gyda phobl sy'n wynebu anfantais economaidd a chymdeithasol.
  • Profiad o godi arian
  • Profiad o reoli digwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol
  • Profiad o weithio ar y cyd â chymunedau ac amrywiaeth o bartneriaid
  • Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth ac fel rhan o dîm
  • Y gallu i gysylltu gyda, a chynnal trafodaethau gydag amrywiaeth o staff, partneriaid, gwirfoddolwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol.
  • Cyfathrebu ar lafar ac ar bapur yn glir ac effeithiol.
  • Sgiliau gweinyddu a threfnu da, gan gynnwys sgiliau TG
  • Ymrwymiad i weithio gyda thimau amrywiol a chefnogi cynhwysiant
  • Ymrwymiad i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg

Sut i wneud cais

Cyflwynwch CV a chynnig ysgrifenedig yn manylu ar eich profiad a'ch dull o ymdrin â'r contract hwn a'i anfon at megan@ndcwales.co.uk erbyn 15 Awst 2024 12.00pm

Llenwch ein ffurflen Cyfle Cyfartal hefyd, sydd at ddibenion monitro ac sydd ar wahân i'ch cynnig.

Gallwch wneud cais yn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol, yn Gymraeg neu yn Saesneg:
Cynnig o ddim mwy na thair tudalen o A4 (maint ffont 12 pwynt),
Ffeil sain heb fod yn fwy na 10 munud,
Ffeil fideo MP3/MP4 10 heb fod yn fwy na 10 munud gan ddefnyddio We Transfer.

Byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd p'un a ydynt ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ai peidio.

Bydd ymgeiswyr anabl sy'n dangos bod ganddynt y profiad perthnasol yn cael eu gwahodd am gyfweliad, ac rydym wedi ymrwymo i fodloni gofynion mynediad; gadewch i ni wybod beth sydd ei angen arnoch chi.

Mae cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a thegwch wrth wraidd popeth y mae CDCCymru yn ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle cyfartal i gael mynediad at ddawns. Bydd CDCCymru yn ceisio sicrhau nad oes unrhyw un yn cael triniaeth llai ffafriol oherwydd bod ganddynt nodwedd warchodedig.

Diogelu Data.

Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio i lunio rhestr fer ar gyfer cyfweliadau ac i lywio ein penderfyniad ynghylch pwy fydd yn cael y contract. Bydd eich holl fanylion yn cael eu cadw'n ddiogel gyda mynediad wedi'i gyfyngu i'r rhai sy'n ymwneud â'r broses recriwtio yn unig. Bydd eich cais yn cael ei gadw ar ffeil am o leiaf dri mis ar ôl y dyddiad cau a'i ddinistrio heb fod yn hwyrach na deuddeg mis ar ôl hynny. Mae data cyfle cyfartal hefyd yn ddienw ac yn cael ei ddefnyddio'n fewnol i nodi ffyrdd o wella ein prosesau. Mae cyflwyno eich cynnig yn dangos eich bod yn caniatáu i'ch data gael ei ddefnyddio yn y modd hwn.

 

Galeri
walking along a fence
volunteer blowing bubbles
children stretching

above and beyond partner logos