Folk image, 2 dancers, 1 leaping into the air
CDCCymru yn Cyflwyno

Teithio rhyngwladol

Yn yr un modd ag y mae artistiaid rhyngwladol yn ychwanegu dimensiynau cyfoethog at y gwaith a wnawn, mae teithio rhyngwladol yn gwau trwy’r mannau y perfformiwn ynddynt a’r cynulleidfaoedd a gyrhaeddwn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r cwmni wedi teithio i Awstria, Ffrainc, yr Almaen, Hong Kong, yr Eidal, Japan, De Corea a’r Swistir.

Mae’r gweithiau y teithiwn gyda nhw’n rhyngwladol yn elwa ar ardal berfformio 12m o led ac 11m o ddyfnder, er bod modd perfformio’r mwyafrif o’r darnau ar lwyfan dipyn yn llai. Caiff lleoliadau sy’n gallu dal 400-700 o bobl eu cynnwys yn aml o fewn ein proffil teithio.

Mae ein criw teithio arferol yn cynnwys 15 o bobl – sef 9 o ddawnswyr, 3 o dechnegwyr a staff cynhyrchu, cyfarwyddwr ymarfer, cyfarwyddwr artistig a chynhyrchydd.

Yn fwyfwy y dyddiau hyn, rydym yn ceisio teithio mewn ffordd mor gynaliadwy â phosibl, gan gyflogi pobl leol a defnyddio cyflenwyr lleol i raddau mwy nag o’r blaen. Fel arfer, rydym yn teithio gyda desg ETC G1O, gyda meddalwedd rheoli sain Qlab ar MacBook Pro.

Ar hyn o bryd, mae gennym dri darn y gallwn deithio’n rhyngwladol gyda nhw, sef:

 

Waltz gan Marcos Morau

AUGUST gan Matthew Wiliam Robinson

Skinners gan Melanie Lane
 

Bydd perfformiad dwbl o AUGUST a Skinners yn cael ei gynnal am y tro cyntaf yn Theatr y Sherman, Caerdydd ar 19 Medi 2024.

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Chris Ricketts, Cynhyrchydd Gweithredol

chris@ndcwales.co.uk

 

 

Rhaglen y Daith

Skinners gan Melanie Lane: Rydym yn byw mewn oes ddigidol. Y tu hwnt i’r ffantasïau a wireddir gan dechnoleg, erys ein dynoliaeth.

AUGUST gan Matthew William Robinson. "Wrth i’r haul fachlud, newidiodd popeth" 

Wedi’i hysbrydoli gan gerddoriaeth glapio’r cyfansoddwr Steve Reich, mae ‘Why Are People Clapping?’ yn defnyddio rhythm ac offerynnau taro fel sylfaen.