Artistiaid Ymgysylltu Rydym ni’n gweithio gyda nifer o artistiaid ymgysylltu a dawns llawrydd ledled Cymru. Gwybod mwy
Alison Thorne Cadeirydd Mae Alison Thorne yn Gadeirydd, yn Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn Aelod Pwyllgor a chanddi yrfa fyd-eang gorfforaethol yn y maes manwerthu. Mae wedi ysgwyddo rolau ar fyrddau gweithredol Mothercare, George at Asda ac Otto UK, ynghyd â rolau arwain gweithredol yn Kingfisher a Storehouse, gan arbenigo mewn Gweithrediadau, Prynu, Gwerthu a Chyrchu. Dechreuodd ei gyrfa manwerthu yn David Morgans, Caerdydd.
Cathryn Allen Mae Cath yn Gyfarwyddwr Creating Answers, gan arbenigo mewn helpu unigolion, timau a sefydliadau i gyflawni eglurder, hyder a chreadigrwydd wrth ymdrechu i fod yn arweinwyr o’r radd flaenaf. Mae hi’n ymarferydd hyfforddi EMCC hyfforddedig ac mae’n llunio ac yn cyflwyno gweithdai’n ymwneud ag arwain, gwaith tîm a chyfathrebu. Lleolir Cath yn Harlech a Chaerdydd ac mae’n gweithio ledled y DU, yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Giovanni Basileti Mae Giovanni yn Gyfreithiwr sy'n arbenigo mewn cyfraith adeiladu a pheirianneg. Mae ganddo brofiad o ddelio â materion adeiladu cynhennus a rhai nad ydynt yn gynhennus ar draws pob sector ac mae ganddo ddiddordeb brwd mewn prosiectau seilwaith ynni. Yn wreiddiol o Gibraltar, mae'n siaradwr Sbaeneg iaith gyntaf.
Joanna Davies Mae Joanna yn Hyfforddwr Gweithredwyr sy’n arbenigo mewn gwthio ffiniau ym maes arweinyddiaeth menywod, ac yn arbenigwr datblygu brand personol. Cyn hyn, bu Jo yn gweithio am 25 mlynedd ym maes datblygu brand a chynulleidfa yn y diwydiannau creadigol, gan weithio gyda sefydliadau celfyddydau a threftadaeth ledled Cymru, gan gynnwys gydag un o’i hoff gleientiaid, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru! Mae Jo wedi’i lleoli ger Tyndyrn ac yn gweithio ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Krystal S. Lowe Mae Krystal S. Lowe yn ddawnswraig, coreograffydd, awdur a chyfarwyddwr wedi’i geni yn Ynysoedd Bermwda ac wedi’i lleoli yng Nghymru, sy’n creu darnau theatr ddawns ar gyfer y llwyfan, ardaloedd cyhoeddus, a ffilm sy’n archwilio themâu hunaniaeth, iechyd meddwl a llesiant, a grym i herio ei hun a chynulleidfaoedd tuag at fewnsyllu a newid cymdeithasol.
Stacey Rainbow Oliver Mae Stacey yn arbenigwr Cysylltiadau Cyhoeddus a marchnata sydd bellach yn Gyfarwyddwr Cynaliadwyedd, ac mae hi wastad yn rhoi’r lle blaenaf i bobl, angerdd a diben ym mhrif asiantaeth greadigol Cymru. Hefyd, mae hi’n ddawnsiwr amhroffesiynol.
Tupac Martir Mae Tupac yn Artist ac yn sylfaenydd Satore Studio. Yn ôl y V&A, mae’n “Ŵr Amlddisgyblaethol y Dadeni” ar sail ei waith fel artist amlgyfrwng sy’n ymhél â meysydd fel technoleg, goleuadau, taflunio a fideo, dylunio sain, cerddoriaeth, a chyfansoddi, yn ogystal â choreograffi a gwisgoedd. Yn ôl Vogue, ef yw’r ‘dylunydd gweledol a’r cyfarwyddwr creadigol sydd wrth wraidd rhai o ddigwyddiadau pwysicaf y byd’.
William James Roedd William yn Gynhyrchydd yn Theatr Clwyd ac yn arwain y tîm Cynhyrchu a Rhaglennu tan 2021. Bu’n rhaglennu CDCCymru am nifer flynyddoedd yng Nghlwyd - mae’n gefnogwr brwd o’r cwmni. Cyn hynny, gweithiodd mewn sawl lle gwahanol, yn cynnwys y Royal Shakespeare Company, West Yorkshire Playhouse ac Intelfax yn is-deitlo rhaglenni Channel 4 ar gyfer cynulleidfaoedd Byddar a thrwm eu clyw. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd.